11. Edrych, fy nhad, ie, edrych, dyma gwr dy fantell yn fy llaw. Gan imi dorri cwr dy fantell heb dy ladd, fe ddylit wybod a gweld nad oedd dim malais na gwrthryfel ynof. Ni wneuthum gam â thi, ond eto yr wyt yn ymlid ar fy ôl i'm dal.
12. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom a dial arnat, ond ni fydd fy llaw i arnat.
13. Fel y dywed yr hen ddihareb, ‘O'r drygionus y daw drygioni.’ Ond ni fydd fy llaw i arnat.
14. Ar ôl pwy yr aeth brenin Israel? Pwy wyt ti'n ei ymlid? Ci marw! Chwannen!
15. Fe gaiff yr ARGLWYDD fod yn ddyfarnwr a barnu rhyngom a'n gilydd; caiff ef chwilio a dadlau f'achos a'm rhyddhau o'th law.”
16. Wedi i Ddafydd orffen llefaru fel hyn wrth Saul, meddai Saul: “Dafydd, fy mab, ai dy lais di yw hwn?” Yna fe dorrodd allan i wylo.
17. Ac meddai wrth Ddafydd, “Yr wyt ti yn fwy cyfiawn na mi, oherwydd yr wyt ti wedi talu da i mi, a minnau wedi talu drwg i ti.
18. Ac yr wyt wedi dangos mor dda fuost tuag ataf heddiw, pan oedd yr ARGLWYDD wedi fy rhoi yn dy law, a thithau'n ymatal rhag fy lladd.
19. Pan fydd rhywun yn dod ar warthaf ei elyn, a yw'n ei adael yn rhydd? Bydded i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iti'n hael am yr hyn a wnaethost imi heddiw.