Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 23:13-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, peidiodd â chychwyn allan.

14. Tra oedd Dafydd yn byw mewn llochesau yn y diffeithwch ac yn aros yn y mynydd-dir yn niffeithwch Siff, yr oedd Saul yn chwilio amdano trwy'r adeg, ond ni roddodd Duw ef yn ei law.

15. Yr oedd Dafydd yn gweld mai dod allan i geisio'i fywyd yr oedd Saul; felly arhosodd Dafydd yn Hores yn niffeithwch Siff.

16. Aeth Jonathan fab Saul draw i Hores at Ddafydd a'i galonogi trwy Dduw

17. a dweud wrtho, “Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di'n frenin ar Israel a minnau'n ail iti, ac y mae fy nhad Saul yn gwybod hynny'n iawn.”

18. Gwnaethant gyfamod ill dau gerbron yr ARGLWYDD; arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref.

19. Aeth pobl Siff at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn ymguddio yn ein hardal, yn llochesau Hores ym mryniau Hachila i'r de o Jesimon?

20. Pryd bynnag yr wyt ti'n dymuno, O frenin, tyrd i lawr, a rhown ninnau ef yn llaw'r brenin.”

21. Ac meddai Saul, “Bendigedig fyddoch gan yr ARGLWYDD am ichwi drugarhau wrthyf.

22. Ewch yn awr a gwneud yn sicr eto; ceisiwch wybod a gwylio'i lwybrau, a phwy a'i gwelodd yno. Dywedir wrthyf ei fod yn un cyfrwys iawn.

23. Wedi ichwi weld a gwybod ym mha un o'r holl guddfannau y mae'n ymguddio, dewch yn ôl ataf pan fyddwch yn sicr, a dof finnau gyda chwi. Cyhyd â'i fod yn y wlad, fe chwiliaf amdano ym mhob man, ie, trwy holl lwythau Jwda.”

24. Aethant yn ôl i Siff cyn i Saul gyrraedd, ac yr oedd Dafydd a'i wŷr yn niffeithwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jesimon.

25. Yna daeth Saul a'i wŷr i geisio Dafydd, ond dywedwyd wrth Ddafydd, ac aeth yntau i lawr i'r creigiau ac arhosodd yn niffeithwch Maon.

26. Clywodd Saul, ac aeth i erlid Dafydd i ddiffeithwch Maon; ac yr oedd ef yn mynd ar hyd un ochr i'r mynydd, a Dafydd a'i wŷr ar hyd yr ochr arall. Fel yr oedd Dafydd yn brysio i osgoi Saul, a Saul a'i wŷr yn cau am Ddafydd a'i wŷr i'w dal,

27. cyrhaeddodd negesydd a dweud wrth Saul, “Tyrd ar unwaith, oherwydd y mae'r Philistiaid wedi ymosod ar y wlad.”

28. Felly peidiodd Saul ag ymlid Dafydd, ac aeth i wrthwynebu'r Philistiaid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 23