Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 23:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mynegwyd i Ddafydd fod y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila, ac yn ysbeilio'r lloriau dyrnu.

2. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, a oedd i fynd a tharo'r Philistiaid hyn. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Ddafydd, “Dos a tharo'r Philistiaid, ac achub Ceila.”

3. Ond dywedodd gwŷr Dafydd wrtho, “Yr ydym mewn digon o ofn yma yn Jwda; pa faint mwy pan awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?”

4. Felly ymofynnodd Dafydd eto â'r ARGLWYDD, ac atebodd yr ARGLWYDD ef, “Dos i lawr i Ceila, oherwydd rhoddaf y Philistiaid yn dy law.”

5. Felly fe aeth Dafydd a'i wŷr i Ceila ac ymladd â'r Philistiaid, a mynd â'u gwartheg ymaith, a gwneud lladdfa fawr yn eu mysg hwy; ac achubodd Dafydd drigolion Ceila.

6. Pan ffodd Abiathar fab Ahimelech at Ddafydd i Ceila, daeth â'r effod i lawr gydag ef.

7. A phan fynegwyd i Saul fod Dafydd wedi mynd i Ceila, dywedodd Saul, “Y mae Duw wedi ei roi yn fy llaw, oherwydd y mae wedi cau amdano wrth fynd i ddinas ac iddi byrth a barrau.”

8. Galwodd Saul yr holl bobl i ryfel, ac i fynd i lawr i Ceila i warchae ar Ddafydd a'i wŷr.

9. Pan ddeallodd Dafydd fod Saul yn cynllunio drwg yn ei erbyn, dywedodd wrth yr offeiriad Abiathar, “Estyn yr effod.”

10. Yna dywedodd Dafydd, “O ARGLWYDD Dduw Israel, y mae dy was wedi clywed yn bendant fod Saul yn ceisio dod i Ceila i ddinistrio'r dref o'm hachos i.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 23