Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 20:28-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Atebodd Jonathan, “O, fe grefodd Dafydd arnaf am gael mynd i Fethlehem,

29. a dweud, ‘Gad imi fynd, oherwydd y mae gan y teulu aberth yn y dref, ac y mae fy mrawd wedi peri i mi fod yno; felly, os gweli di'n dda, gad imi fynd draw i weld fy mrodyr.’ Dyna pam nad yw wedi dod at fwrdd y brenin.”

30. Gwylltiodd Saul wrth Jonathan a dywedodd wrtho, “Ti fab putain anufudd! Oni wyddwn dy fod yn ochri gyda mab Jesse, er cywilydd i ti dy hun ac i warth dy fam?

31. Oherwydd tra bydd mab Jesse fyw ar y ddaear, ni fyddi di na'r frenhiniaeth yn ddiogel. Anfon ar unwaith a thyrd ag ef ataf, oherwydd y mae'n haeddu marw.”

32. Atebodd Jonathan a dweud wrth ei dad, “Pam ei roi i farwolaeth? Beth y mae wedi ei wneud?”

33. Yna hyrddiodd Saul waywffon ato i'w daro, a sylweddolodd Jonathan fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.

34. Felly cododd Jonathan oddi wrth y bwrdd yn wyllt ei dymer, a heb fwyta tamaid ar ail ddiwrnod y newydd-loer, am ei fod yn gofidio dros Ddafydd, a bod ei dad wedi rhoi sen arno yntau.

35. Bore trannoeth aeth Jonathan allan i'r maes i gadw ei oed â Dafydd, a llanc ifanc gydag ef.

36. Dywedodd wrth y llanc, “Rhed di i nôl y saethau y byddaf fi'n eu saethu.” Tra oedd y llanc yn rhedeg, yr oedd ef yn saethu'r saethau y tu draw iddo.

37. Wedi i'r llanc gyrraedd y man y disgynnodd y saethau, gwaeddodd Jonathan ar ôl y llanc, “Onid yw'r saethau y tu draw iti?” Yna gwaeddodd ar ôl y llanc, “Dos, brysia, paid â sefyllian.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 20