10. Gofynnodd Dafydd i Jonathan, “Pwy sydd i ddweud wrthyf os bydd dy dad yn rhoi ateb chwyrn iti?”
11. Dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, “Tyrd, gad inni fynd i'r maes.”
12. Aeth y ddau allan i'r maes, ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, mi holaf fy nhad tua'r adeg yma yfory am y trydydd tro; yna, os newydd da fydd i Ddafydd, anfonaf air i ddweud wrthyt.
13. Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad.
14. Os byddaf fyw, gwna drugaredd â mi yn enw'r ARGLWYDD.
15. Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir,
16. na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd.”
17. Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun.
18. A dywedodd Jonathan wrtho, “Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat.
19. Dos dithau i'r man yr ymguddiaist ynddo adeg y digwyddiad o'r blaen, ac aros yn ymyl y garreg fan draw.
20. Saethaf finnau dair saeth i'w hymyl, fel pe bawn yn saethu at nod.
21. Wedyn anfonaf y llanc a dweud, ‘Dos i nôl y saethau.’ Os byddaf yn dweud wrth y llanc, ‘Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy’, yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.
22. Ond os dywedaf fel hyn wrth y llencyn: ‘Edrych, y mae'r saethau y tu draw iti’, yna dos, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dy anfon i ffwrdd.
23. Bydded yr ARGLWYDD yn dyst am byth rhyngof fi a thi yn y cytundeb hwn a wnaethom ein dau.”