Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 20:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ffodd Dafydd o Naioth ger Rama, a daeth at Jonathan a gofyn, “Beth wnes i? Beth yw fy mai a'm pechod gerbron dy dad, fel ei fod yn ceisio f'einioes?”

2. Dywedodd Jonathan, “Pell y bo! Ni fyddi farw. Edrych yma, nid yw fy nhad yn gwneud dim, bach na mawr, heb ddweud wrthyf fi; pam felly y byddai fy nhad yn celu'r peth hwn oddi wrthyf? Nid oes dim yn y peth.”

3. Ond tyngodd Dafydd wrtho eto a dweud, “Y mae dy dad yn gwybod yn iawn imi gael ffafr yn d'olwg, a dywedodd, ‘Nid yw Jonathan i wybod hyn, rhag iddo boeni.’ Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, dim ond cam sydd rhyngof fi ac angau.”

4. Yna gofynnodd Jonathan i Ddafydd, “Beth a ddymuni imi ei wneud iti?”

5. Ac meddai Dafydd wrth Jonathan, “Y mae'n newydd-loer yfory, a dylwn fod yno'n bwyta gyda'r brenin; gad imi fynd ac ymguddio yn y maes tan yr hwyr drennydd.

6. Os bydd dy dad yn holi'n arw amdanaf, dywed, ‘Fe grefodd Dafydd am ganiatâd gennyf i fynd draw i'w dref ei hun, Bethlehem, am fod yno aberth blynyddol i'r holl dylwyth.’

7. Os dywed, ‘Popeth yn dda’, yna y mae'n ddiogel i'th was; ond os cyll ei dymer, byddi'n gwybod ei fod yn bwriadu drwg.

8. Bydd yn deyrngar i'th was, oherwydd gwnaethost gyfamod â mi gerbron yr ARGLWYDD. Ac os oes bai ynof, lladd fi dy hun; pam mynd â mi at dy dad?”

9. Atebodd Jonathan, “Pell y bo hynny! Pe bawn i'n gwybod o gwbl fod fy nhad yn bwriadu drwg iti, oni fyddwn yn dweud wrthyt?”

10. Gofynnodd Dafydd i Jonathan, “Pwy sydd i ddweud wrthyf os bydd dy dad yn rhoi ateb chwyrn iti?”

11. Dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, “Tyrd, gad inni fynd i'r maes.”

12. Aeth y ddau allan i'r maes, ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, mi holaf fy nhad tua'r adeg yma yfory am y trydydd tro; yna, os newydd da fydd i Ddafydd, anfonaf air i ddweud wrthyt.

13. Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad.

14. Os byddaf fyw, gwna drugaredd â mi yn enw'r ARGLWYDD.

15. Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 20