Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD,yn wir nid oes neb heblaw tydi,ac nid oes craig fel ein Duw ni.

3. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus,na gadael gair hy o'ch genau;canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD,ac ef sy'n pwyso gweithredoedd.

4. Dryllir bwâu y cedyrn,ond gwregysir y gwan â nerth.

5. Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara,ond y newynog yn gorffwyso bellach.Planta'r ddi-blant seithwaith,ond dihoeni a wna'r aml ei phlant.

6. Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau,yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu.

7. Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi,yn darostwng a hefyd yn dyrchafu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 2