Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 18:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Aeth gweision Saul â'r neges yn ôl iddo, sut yr oedd Dafydd wedi dweud.

25. Yna dywedodd Saul, “Dywedwch fel hyn wrth Ddafydd, ‘Nid yw'r brenin yn chwennych rhodd briodas heblaw cant o flaengrwyn Philistiaid, i dalu'r pwyth i elynion y brenin’.” Syniad Saul oedd peri i Ddafydd gwympo trwy law y Philistiaid.

26. Cyflwynodd ei weision y neges hon i Ddafydd, ac ystyriodd y byddai'n dderbyniol iddo felly briodi merch y brenin.

27. Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wŷr, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.

28. Wedi i Saul weld a sylweddoli bod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch Michal yn ei garu,

29. daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o'r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo.

30. Bob tro y dôi arweinwyr y Philistiaid allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus na phawb arall o weision Saul, ac enillodd enwogrwydd mawr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 18