Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 18:11-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef ddwywaith.

12. Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul.

13. Gyrrodd Saul ef i ffwrdd oddi wrtho, a'i wneud yn gapten ar fil o ddynion; ac ef oedd yn arwain y fyddin.

14. Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wnâi, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.

15. Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn.

16. Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.

17. Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Dyma fy merch hynaf, Merab. Fe'i rhoddaf yn wraig i ti, ond i ti ddangos gwrhydri i mi ac ymladd brwydrau'r ARGLWYDD.” Meddwl yr oedd Saul, “Peidied fy llaw i â'i gyffwrdd, ond yn hytrach law y Philistiaid.”

18. Atebodd Dafydd, “Pwy wyf fi, a beth yw tras llwyth fy nhad yn Israel, i mi fod yn fab-yng-nghyfraith i'w brenin?”

19. Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab ferch Saul i Ddafydd, rhoddwyd hi'n wraig i Adriel o Mehola.

20. Syrthiodd Michal ferch Saul mewn cariad â Dafydd, a phan ddywedwyd wrth Saul, yr oedd hynny'n dderbyniol ganddo.

21. Meddyliodd Saul, “Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro.” A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, “Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi.”

22. Yna gorchmynnodd Saul i'w weision, “Dywedwch yn ddistaw bach wrth Ddafydd, ‘Y mae'r brenin, weli di, yn falch ohonot, a phawb o'i weision yn dy hoffi; yn awr, prioda ferch y brenin’.”

23. Pan sibrydodd gweision Saul y pethau hyn yng nghlust Dafydd, dywedodd ef, “Ai dibwys o beth yn eich golwg yw priodi merch y brenin? Dyn tlawd a dinod wyf fi.”

24. Aeth gweision Saul â'r neges yn ôl iddo, sut yr oedd Dafydd wedi dweud.

25. Yna dywedodd Saul, “Dywedwch fel hyn wrth Ddafydd, ‘Nid yw'r brenin yn chwennych rhodd briodas heblaw cant o flaengrwyn Philistiaid, i dalu'r pwyth i elynion y brenin’.” Syniad Saul oedd peri i Ddafydd gwympo trwy law y Philistiaid.

26. Cyflwynodd ei weision y neges hon i Ddafydd, ac ystyriodd y byddai'n dderbyniol iddo felly briodi merch y brenin.

27. Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wŷr, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.

28. Wedi i Saul weld a sylweddoli bod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch Michal yn ei garu,

29. daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o'r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 18