Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 17:55-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

55. Pan welodd Saul Ddafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten ei lu, “Mab i bwy yw'r bachgen acw, Abner?” Atebodd Abner, “Cyn wired â'th fod yn fyw, O frenin, ni wn i ddim.”

56. A dywedodd y brenin, “Hola di mab i bwy yw'r llanc ifanc.”

57. Felly pan gyrhaeddodd Dafydd yn ôl wedi iddo ladd y Philistiad, cymerodd Abner ef a'i ddwyn at Saul gyda phen y Philistiad yn ei law.

58. Gofynnodd Saul, “Mab pwy wyt ti, fachgen?” A dywedodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 17