Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 17:26-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yna gofynnodd Dafydd i'r dynion oedd yn sefyll o'i gwmpas, “Beth a wneir i'r sawl fydd yn lladd y Philistiad acw, ac yn symud y sarhad oddi ar Israel? Oherwydd pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, ei fod yn herio lluoedd y Duw byw?”

27. Dywedodd y bobl yr un peth wrtho: “Fel hyn y gwneir i'r sawl fydd yn ei ladd ef.”

28. Clywodd ei frawd hynaf Eliab ef yn siarad â'r dynion, a chollodd ei dymer â Dafydd a dweud, “Pam y daethost ti i lawr yma? Yng ngofal pwy y gadewaist yr ychydig ddefaid yna yn y diffeithwch? Mi wn dy hyfdra a'th fwriadau drwg—er mwyn cael gweld y frwydr y daethost ti draw yma.”

29. Dywedodd Dafydd, “Beth wnes i? Onid gofyn cwestiwn?”

30. Trodd draw oddi wrtho at rywun arall, a gofyn yr un peth, a'r bobl yn rhoi'r un ateb ag o'r blaen iddo.

31. Rhoddwyd sylw i'r geiriau a lefarodd Dafydd, a'u hailadrodd wrth Saul, ac anfonodd yntau amdano.

32. Ac meddai Dafydd wrth Saul, “Peidied neb â gwangalonni o achos hwn; fe â dy was ac ymladd â'r Philistiad yma.”

33. Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Ni fedri di fynd ac ymladd â'r Philistiad hwn, oherwydd llanc wyt ti ac yntau'n rhyfelwr o'i ieuenctid.”

34. Ond dywedodd Dafydd wrth Saul, “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was;

35. pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o'r ddiadell, byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o'i safn. Pan fydd yn codi yn fy erbyn i, byddaf yn cydio yn ei farf, yn ei drywanu, ac yn ei ladd.

36. Mae dy was wedi lladd llewod ac eirth, a dim ond fel un ohonynt hwy y bydd y Philistiad dienwaededig hwn, am iddo herio byddin y Duw byw.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 17