Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 16:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef.”

2. Gofynnodd Samuel, “Sut y medraf fi fynd? Os clyw Saul, fe'm lladd.” Dywedodd yr ARGLWYDD, “Dos â heffer gyda thi, a dweud dy fod wedi dod i aberthu i'r ARGLWYDD.

3. Rho wahoddiad i Jesse i'r aberth; dangosaf finnau iti beth i'w wneud, ac eneinia imi yr un a ddywedaf wrthyt.”

4. Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, “Ai mewn heddwch y daethost?”

5. atebodd yntau, “Ie, mewn heddwch. I aberthu i'r ARGLWYDD yr wyf fi yma; ymgysegrwch ac ymunwch â mi yn yr aberth.”

6. Cysegrodd yntau Jesse a'i feibion, a'u gwahodd i'r aberth. Fel yr oeddent yn dod, sylwodd ar Eliab a meddyliodd, “Yn sicr dyma'i eneiniog, gerbron yr ARGLWYDD.”

7. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wêl meidrolyn y mae Duw'n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.”

8. Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.”

9. Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.”

10. A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, “Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn.”

11. Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 16