Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:30-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Yn wir, pe bai'r bobl wedi cael rhyddid i fwyta heddiw o ysbail eu gelynion, oni fyddai'r lladdfa ymysg y Philistiaid yn drymach?”

31. Y diwrnod hwnnw trawyd y Philistiaid bob cam o Michmas i Ajalon, er bod y bobl wedi blino'n llwyr.

32. Yna rhuthrodd y bobl ar yr ysbail a chymryd defaid ac ychen a lloi, a'u lladd ar y ddaear, a'u bwyta heb eu gwaedu.

33. Pan ddywedwyd wrth Saul, “Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu”, dywedodd yntau, “Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith.”

34. Yna dywedodd Saul, “Ewch ar frys trwy ganol y bobl a dywedwch wrthynt, ‘Doed pob un â'i ych neu ei ddafad ataf fi, a'u lladd yma a'u bwyta, rhag i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta cig heb ei waedu’.” Daeth pob un o'r bobl â'i ych gydag ef y noson honno, i'w ladd yno.

35. Felly y cododd Saul allor i'r ARGLWYDD, a honno oedd yr allor gyntaf iddo'i chodi i'r ARGLWYDD.

36. Yna dywedodd Saul, “Awn i lawr ar ôl y Philistiaid liw nos a'u hysbeilio hyd y bore, heb adael yr un ohonynt ar ôl.” Dywedodd y bobl, “Gwna beth bynnag a fynni.” Ond dywedodd yr offeiriad, “Gadewch inni agosáu yma at Dduw.”

37. Gofynnodd Saul i Dduw, “Os af i lawr ar ôl y Philistiaid, a roi di hwy yn llaw Israel?” Ond ni chafodd ateb y diwrnod hwnnw.

38. Yna dywedodd Saul, “Dewch yma, holl bennau-teuluoedd y bobl, a chwiliwch i gael gweld ymhle mae'r pechod hwn heddiw.

39. Oherwydd, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un a waredodd Israel, hyd yn oed pe byddai yn fy mab Jonathan, byddai raid iddo farw.” Ond ni ddywedodd yr un o'r bobl wrtho.

40. Yna dywedodd wrth yr holl Israeliaid, “Safwch chwi ar un ochr, a minnau a'm mab Jonathan ar yr ochr arall.” A dywedodd y bobl wrth Saul, “Gwna fel y gweli'n dda.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14