Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 12:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yna galwodd Samuel ar yr ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a glaw y diwrnod hwnnw, ac ofnodd yr holl bobl yr ARGLWYDD a Samuel.

19. Dywedodd yr holl bobl wrth Samuel, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw ar ein rhan, rhag inni farw, oherwydd yr ydym wedi ychwanegu at ein holl bechodau y drwg hwn o geisio inni frenin.”

20. Dywedodd Samuel wrth y bobl, “Peidiwch ag ofni, er i chwi wneud yr holl ddrwg hwn; peidiwch â throi i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD; addolwch yr ARGLWYDD â'ch holl galon.

21. Peidiwch â throi at wagedd eilunod na fedrant gynorthwyo na gwaredu am mai gwagedd ydynt.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 12