17. Onid yw'n adeg y cynhaeaf gwenith? Galwaf ar yr ARGLWYDD i anfon taranau a glaw, a chewch weld a gwybod eich bod wedi cyflawni trosedd mawr yng ngolwg yr ARGLWYDD drwy ofyn am frenin.”
18. Yna galwodd Samuel ar yr ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a glaw y diwrnod hwnnw, ac ofnodd yr holl bobl yr ARGLWYDD a Samuel.
19. Dywedodd yr holl bobl wrth Samuel, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw ar ein rhan, rhag inni farw, oherwydd yr ydym wedi ychwanegu at ein holl bechodau y drwg hwn o geisio inni frenin.”
20. Dywedodd Samuel wrth y bobl, “Peidiwch ag ofni, er i chwi wneud yr holl ddrwg hwn; peidiwch â throi i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD; addolwch yr ARGLWYDD â'ch holl galon.
21. Peidiwch â throi at wagedd eilunod na fedrant gynorthwyo na gwaredu am mai gwagedd ydynt.
22. Er mwyn ei enw mawr ni fydd yr ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dymuno'ch gwneud yn bobl iddo.
23. A phell y bo oddi wrthyf finnau bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy roi'r gorau i weddïo drosoch a'ch hyfforddi yn y ffordd dda ac uniawn.
24. Yn unig ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd ac â'ch holl galon. Ystyriwch y pethau mawr a wnaeth drosoch.
25. Ond os parhewch i wneud drwg, ysgubir chwi a'ch brenin i ffwrdd.”