1. Dywedodd Samuel wrth holl Israel, “Edrychwch, yr wyf wedi gwrando ar bopeth a ddywedasoch wrthyf, a gosod brenin arnoch.
2. Yn awr, dyma'r brenin fydd yn eich arwain. Yr wyf fi'n hen a phenwyn, ac y mae fy meibion gyda chwi. Bûm yn eich arwain, o'm hieuenctid hyd heddiw.
3. Dyma fi; tystiwch yn f'erbyn gerbron yr ARGLWYDD a'i eneiniog: a gymerais ych unrhyw un? A gymerais asyn unrhyw un? A dwyllais rywun? A orthrymais rywun? A dderbyniais gildwrn oddi wrth rywun i gau fy llygaid? Dewch â thystiolaeth, ac fe'i rhoddaf yn ôl.”
4. Ond dywedasant, “Nid wyt ti wedi'n twyllo na'n gorthrymu, nac wedi cymryd dim gan neb.”