Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 11:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Atebodd Nahas yr Ammoniad, “Ar un amod y gwnaf gytundeb â chwi—bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan.”

3. Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, “Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat.”

4. Daeth y negeswyr at Gibea Saul ac adrodd am hyn yng nghlyw'r bobl, a chododd pawb ei lais ac wylo.

5. Yna daeth Saul o'r maes yn dilyn ei wedd o ychen a gofynnodd, “Beth sydd ar y bobl, yn wylo?” A mynegwyd wrtho helyntion gwŷr Jabes.

6. Pan glywodd y pethau hyn, disgynnodd ysbryd Duw ar Saul, a ffromodd yn enbyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 11