Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 10:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Wedi iti fynd ymlaen oddi yno, fe ddoi at dderwen Tabor a chael yno dri dyn yn mynd i fyny at Dduw i Fethel, un yn cario tri myn, un arall yn cario tair torth, a'r llall yn cario costrel o win.

4. Wedi iddynt dy gyfarch, rhoddant iti ddwy dorth; cymer dithau hwy ganddynt.

5. Wedi hynny doi at Gibea Duw, lle y mae rhaglaw y Philistiaid. Wedi iti gyrraedd y dref, byddi'n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o'r uchelfa gyda nabl, tympan, ffliwt a thelyn o'u blaen, a hwythau'n proffwydo.

6. A bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn arnat, a byddi dithau'n proffwydo gyda hwy ac yn cael dy droi'n ddyn gwahanol.

7. Pan ddigwydd yr arwyddion hyn i ti, gwna yn ôl dy gyfle, oherwydd y mae Duw gyda thi.

8. Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud.”

9. Wedi i Saul droi a gadael Samuel, newidiodd Duw ei galon ef, a digwyddodd yr holl arwyddion hyn yr un diwrnod.

10. Pan ddaethant i Gibea, yr oedd y fintai o broffwydi yno yn dod i'w gyfarfod; disgynnodd ysbryd Duw arno, a dechreuodd broffwydo yn eu plith.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 10