16. Dywedodd Saul wrth ei ewythr, “Sicrhaodd ni fod yr asennod wedi eu cael.” Ond ni soniodd ddim wrtho am yr hyn a ddywedodd Samuel ynglŷn â'r frenhiniaeth.
17. Galwodd Samuel y bobl at yr ARGLWYDD i Mispa,
18. a dywedodd wrth yr Israeliaid, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Myfi a ddaeth ag Israel i fyny o'r Aifft, a'ch achub o law yr Eifftiaid a'r holl deyrnasoedd a fu'n eich gorthrymu.
19. Ond heddiw yr ydych yn gwrthod eich Duw, a fu'n eich gwaredu o'ch holl drueni a'ch cyfyngderau, ac yn dweud wrtho, “Rho inni frenin.” Yn awr, felly, safwch yn rhengoedd o flaen yr ARGLWYDD yn ôl eich llwythau a'ch tylwythau.’ ”
20. Wedi i Samuel gyflwyno pob un o lwythau Israel gerbron yr ARGLWYDD, dewiswyd llwyth Benjamin.
21. Yna cyflwynodd lwyth Benjamin fesul tylwythau, a dewiswyd tylwyth Matri; wedyn dewiswyd Saul fab Cis, ond wedi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.
22. Gofynasant eto i'r ARGLWYDD, “A ddaeth y gŵr yma?” A dywedodd yr ARGLWYDD, “Do, y mae'n cuddio ymysg yr offer.”
23. Wedi iddynt redeg a'i gymryd oddi yno a'i osod i sefyll yng nghanol y bobl, yr oedd yn dalach na phawb, o'i ysgwyddau i fyny.
24. Dywedodd Samuel, “A welwch chwi'r un a ddewisodd yr ARGLWYDD? Yn wir nid oes neb o'r holl bobl yn debyg iddo.” Bloeddiodd yr holl bobl a dweud, “Hir oes i'r brenin!”
25. Yna mynegodd Samuel wrth y bobl ddull y frenhiniaeth, a'i ysgrifennu mewn llyfr a'i osod ynghadw gerbron yr ARGLWYDD; yna gollyngodd yr holl bobl, i bob un fynd adref.