Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 1:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd gŵr o Ramathaim yn ucheldir Effraim, un o linach Suff, o'r enw Elcana fab Jeroham, fab Elihu, fab Tochu, fab Suff, Effratead.

2. Yr oedd ganddo ddwy wraig, a'u henwau'n Hanna a Pheninna; yr oedd plant gan Peninna ond nid gan Hanna.

3. Bob blwyddyn byddai'r gŵr hwn yn mynd i fyny o'i dref i addoli ac offrymu aberth i ARGLWYDD y Lluoedd yn Seilo, lle'r oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.

4. Bob tro yr oedd Elcana'n offrymu, byddai'n rhannu darnau o'r offrwm i'w wraig Peninna ac i bob un o'i bechgyn a'i merched;

5. ond un darn a roddai i Hanna, er mai hi a garai, am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant.

6. Byddai ei chyd-wraig yn ei phoenydio'n arw i'w chythruddo am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant.

7. Dyma a ddigwyddai bob blwyddyn pan âi i fyny i dŷ'r ARGLWYDD; byddai'n ei phoenydio a hithau'n wylo a gwrthod bwyta,

8. er bod ei gŵr Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam yr wyt ti'n wylo a gwrthod bwyta? Pam yr wyt yn torri dy galon? Onid wyf fi'n well i ti na deg o feibion?”

9. Ar ôl iddynt fwyta ac yfed yn Seilo, cododd Hanna; ac yr oedd yr offeiriad Eli yn eistedd ar gadair wrth ddrws teml yr ARGLWYDD.

10. Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl.

11. Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.”

12. Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau.

13. Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed.

14. Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.”

15. Atebodd Hanna, “Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 1