Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:67-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

67. A chwithau, casglwch o'ch amgylch bawb sy'n cadw'r gyfraith, a mynnwch ddial am gamwri eich pobl.

68. Talwch yn ôl i'r Cenhedloedd hyd yr eithaf, ac ufuddhewch i ordinhad y gyfraith.”

69. Yna bendithiodd Matathias hwy, a chasglwyd ef at ei hynafiaid.

70. Bu farw yn y flwyddyn 146, a chladdwyd ef ym medd ei hynafiaid yn Modin, a galarodd Israel gyfan yn ddirfawr amdano.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2