Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:65-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

65. A dyma Simon eich brawd; gwn ei fod yn ŵr o gyngor. Gwrandewch arno ef bob amser, a bydd ef yn dad i chwi.

66. A Jwdas Macabeus yntau, a fu'n ŵr cadarn o'i ieuenctid, bydd ef yn gapten ar eich byddin ac yn arwain y frwydr yn erbyn y bobloedd.

67. A chwithau, casglwch o'ch amgylch bawb sy'n cadw'r gyfraith, a mynnwch ddial am gamwri eich pobl.

68. Talwch yn ôl i'r Cenhedloedd hyd yr eithaf, ac ufuddhewch i ordinhad y gyfraith.”

69. Yna bendithiodd Matathias hwy, a chasglwyd ef at ei hynafiaid.

70. Bu farw yn y flwyddyn 146, a chladdwyd ef ym medd ei hynafiaid yn Modin, a galarodd Israel gyfan yn ddirfawr amdano.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2