Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:59-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

59. Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.

60. Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.

61. Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio.

62. Peidiwch ag ofni geiriau dyn pechadurus, oherwydd fe dry ei ogoniant yn dom ac yn bryfed.

63. Heddiw fe'i dyrchefir, ond yfory ni bydd sôn amdano, am iddo ddychwelyd i'r llwch, a'i gynlluniau wedi darfod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2