Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:56-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

56. Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.

57. Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.

58. Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.

59. Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.

60. Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2