Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:52-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. Oni chafwyd Abraham yn ffyddlon dan ei brawf, ac oni chyfrifwyd hynny yn gyfiawnder iddo?

53. Cadwodd Joseff y gorchymyn yn amser ei gyfyngder, a daeth yn arglwydd ar yr Aifft.

54. Yn ei sêl ysol derbyniodd Phinees ein cyndad gyfamod offeiriadaeth dragwyddol.

55. Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.

56. Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.

57. Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.

58. Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.

59. Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.

60. Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.

61. Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio.

62. Peidiwch ag ofni geiriau dyn pechadurus, oherwydd fe dry ei ogoniant yn dom ac yn bryfed.

63. Heddiw fe'i dyrchefir, ond yfory ni bydd sôn amdano, am iddo ddychwelyd i'r llwch, a'i gynlluniau wedi darfod.

64. Fy mhlant, ymwrolwch a byddwch gadarn dros y gyfraith, oherwydd trwyddi hi y'ch gogoneddir.

65. A dyma Simon eich brawd; gwn ei fod yn ŵr o gyngor. Gwrandewch arno ef bob amser, a bydd ef yn dad i chwi.

66. A Jwdas Macabeus yntau, a fu'n ŵr cadarn o'i ieuenctid, bydd ef yn gapten ar eich byddin ac yn arwain y frwydr yn erbyn y bobloedd.

67. A chwithau, casglwch o'ch amgylch bawb sy'n cadw'r gyfraith, a mynnwch ddial am gamwri eich pobl.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2