Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:51-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

51. Cofiwch weithredoedd ein hynafiaid, a gyflawnwyd ganddynt yn eu cenedlaethau, a derbyniwch ogoniant mawr a chlod tragwyddol.

52. Oni chafwyd Abraham yn ffyddlon dan ei brawf, ac oni chyfrifwyd hynny yn gyfiawnder iddo?

53. Cadwodd Joseff y gorchymyn yn amser ei gyfyngder, a daeth yn arglwydd ar yr Aifft.

54. Yn ei sêl ysol derbyniodd Phinees ein cyndad gyfamod offeiriadaeth dragwyddol.

55. Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.

56. Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.

57. Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.

58. Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2