Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:42-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. A'r pryd hwnnw daeth cwmni o Hasideaid i ymuno â hwy, gwŷr cadarn o Israeliaid, a phob un ohonynt wedi gwirfoddoli i amddiffyn y gyfraith.

43. Daeth pawb oedd wedi ffoi rhag yr erledigaethau i ymuno â hwy, a buont yn atgyfnerthiad iddynt.

44. Ffurfiasant fyddin, a tharo i lawr bechaduriaid yn eu dicter, a rhai digyfraith yn eu llid; yna ffodd y rhai oedd ar ôl at y Cenhedloedd, er mwyn bod yn ddiogel.

45. Aeth Matathias a'i gyfeillion oddi amgylch, gan dynnu'r allorau i lawr,

46. a gorfodi enwaediad ar y plant dienwaededig a gawsant o fewn ffiniau Israel.

47. Erlidiasant y rhai ffroenuchel, a llwyddodd y gwaith hwnnw yn eu dwylo.

48. Felly gwaredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, ac ni roesant gyfle i'r pechadur gael y trechaf.

49. Pan nesaodd y dyddiau i Matathias farw, dywedodd wrth ei feibion: “Yn awr aeth balchder a gwaradwydd yn gadarn; amser dinistr a dicter chwyrn yw hwn.

50. Felly, fy mhlant, byddwch selog dros y gyfraith a rhowch eich bywydau dros gyfamod ein hynafiaid.

51. Cofiwch weithredoedd ein hynafiaid, a gyflawnwyd ganddynt yn eu cenedlaethau, a derbyniwch ogoniant mawr a chlod tragwyddol.

52. Oni chafwyd Abraham yn ffyddlon dan ei brawf, ac oni chyfrifwyd hynny yn gyfiawnder iddo?

53. Cadwodd Joseff y gorchymyn yn amser ei gyfyngder, a daeth yn arglwydd ar yr Aifft.

54. Yn ei sêl ysol derbyniodd Phinees ein cyndad gyfamod offeiriadaeth dragwyddol.

55. Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.

56. Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.

57. Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2