Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:31-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch.

32. Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth.

33. A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.”

34. Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.”

35. Yna prysurodd y gelyn i ymosod arnynt.

36. Ond ni wnaethant hwy ddim mewn ymateb iddynt, na lluchio carreg atynt, na chau'r llochesau rhagddynt.

37. Dywedasant: “Gadewch i ni i gyd farw â chydwybod lân; y mae nef a daear yn tystiolaethu drosom mai'n anghyfiawn yr ydych yn ein lladd.”

38. A gwnaed cyrch ar yr Israeliaid ar y Saboth, a buont farw, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u hanifeiliaid, hyd at fil o eneidiau.

39. Pan glywodd Matathias a'i gyfeillion am hyn, mawr fu eu galar drostynt.

40. A dywedodd pob un wrth ei gilydd: “Os gwnawn ni i gyd fel y gwnaeth ein brodyr, a gwrthod ymladd yn erbyn y Cenhedloedd dros ein bywydau a'n hordeiniadau, yna yn fuan byddant yn ein dileu oddi ar y ddaear.”

41. Felly, y diwrnod hwnnw, gwnaethant y penderfyniad hwn: “Os daw unrhyw un i ymosod arnom ar y Saboth, gadewch i ni ryfela yn ei erbyn; nid ydym ni am farw i gyd, fel y bu farw ein brodyr yn y llochesau.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2