Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. a'r un pryd lladdodd swyddog y brenin a oedd yn gorfodi'r aberthu, a dymchwelodd yr allor.

26. Felly dangosodd ei sêl dros y gyfraith, fel y gwnaeth Phinees pan laddodd Sambri fab Salom.

27. Yna gwaeddodd Matathias yn y dref â llais uchel: “Pob un sy'n selog drosy gyfraith ac sydd am gadw'r cyfamod, deued ar fy ôl i.”

28. A ffodd ef a'i feibion i'r mynyddoedd, gan adael eu meddiannau yn y dref.

29. Yna aeth llawer oedd yn ceisio cyfiawnder a barn i lawr i'r anialwch i aros yno, gyda'u meibion a'u gwragedd a'u hanifeiliaid,

30. oherwydd bod trallodion wedi gwasgu'n galed arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2