Bwriwyd Israel gyfan i alar mawr. Aeth yr holl Genhedloedd o'u hamgylch ati yn awr i'w difrodi, oherwydd dywedasant: “Nid oes ganddynt lywodraethwr na chynorthwywr. Dyma ein cyfle, felly, i fynd i ryfel yn eu herbyn, a dileu'r coffa amdanynt o blith dynion.”