Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 12:23-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. A dyma ninnau yn ein tro yn ysgrifennu atoch chwi i ddweud fod eich anifeiliaid a'r cwbl sydd gennych yn eiddo i ni, a'n heiddo ninnau'n eiddo i chwi. Yr ydym yn gorchymyn felly i'r cenhadau eich hysbysu am hyn.”

24. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi dychwelyd gyda llu mawr, mwy na'r tro cyntaf, i ryfela yn ei erbyn.

25. Ymadawodd â Jerwsalem a mynd i'w cyfarfod i wlad Hamath; felly ni roddodd iddynt gyfle i sengi o fewn ei wlad ei hun.

26. Anfonodd ysbïwyr i'w gwersyll, a adroddodd ar ôl dychwelyd fod y gelyn yn ymfyddino i ymosod arnynt liw nos.

27. Wedi machlud haul gorchmynnodd Jonathan i'w wŷr fod ar wyliadwriaeth a chadw eu harfau ar hyd y nos, yn barod i ryfel; yna gosododd ragwylwyr o gwmpas y gwersyll.

28. Pan ddeallodd yr ymosodwyr fod Jonathan a'i wŷr yn barod i ryfel, yn eu hofn a'u llwfrdra cyneuasant danau yn eu gwersyll.

29. Ond ni ddaeth Jonathan a'i wŷr i wybod am hyn tan y bore, er iddynt weld golau'r tanau.

30. Ymlidiodd Jonathan ar eu hôl ond ni oddiweddodd hwy, oherwydd yr oeddent wedi croesi Afon Elewtherus.

31. Yna troes Jonathan o'r neilltu i ymosod ar yr Arabiaid, a elwir yn Sabadeaid, a'u trechu, a dwyn ysbail oddi arnynt.

32. Cododd ei wersyll a symud i Ddamascus, a thramwyo drwy'r holl wlad.

33. Cychwynnodd Simon allan a thramwyo hyd at Ascalon a'r ceyrydd cyfagos; yna troes o'r neilltu i Jopa a'i meddiannu hi,

34. oherwydd yr oedd wedi clywed bod ei thrigolion yn arfaethu trosglwyddo'r gaer i wŷr Demetrius. Felly gosododd warchodlu yno i'w chadw.

35. Dychwelodd Jonathan a chynnull henuriaid y bobl ynghyd, a dechrau ymgynghori â hwy ynghylch adeiladu ceyrydd yn Jwdea,

36. a chodi muriau Jerwsalem yn uwch, a chodi clawdd terfyn mawr rhwng y gaer a'r ddinas er mwyn ei gwahanu hi oddi wrth y ddinas, iddi fod ar ei phen ei hun, a'i gwneud yn amhosibl i'r gwarchodlu brynu a gwerthu.

37. Felly ymgasglasant ynghyd i adeiladu'r ddinas, oherwydd yr oedd rhan o'r mur ar hyd ochr y nant tua'r dwyrain wedi syrthio; ac atgyweiriwyd y rhan a elwir Chaffenatha.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 12