Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 10:82-85 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

82. Yna arweiniodd Simon ei lu allan a dechrau ymladd â'r gatrawd o wŷr traed, gan fod y gwŷr meirch wedi llwyr flino. Drylliwyd hwy ganddo a ffoesant.

83. Gwasgarwyd y gwŷr meirch yn y gwastatir; ffoesant i Asotus a chyrraedd Beth-dagon, teml eu heilun, am noddfa.

84. Llosgodd Jonathan Asotus a'r trefi o'i hamgylch, a'u hysbeilio, gan losgi teml Dagon hefyd, a'r ffoaduriaid o'i mewn.

85. Yr oedd y rhai a syrthiodd trwy gleddyf, ynghyd â'r rhai a losgwyd, yn rhifo tua wyth mil o wŷr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 10