Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 10:55-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

55. Atebodd y Brenin Ptolemeus fel hyn: “O ddedwydd ddydd pan ddychwelaist i wlad dy hynafiaid ac eistedd ar orsedd eu teyrnas!

56. Fe wnaf i ti yn awr yn unol â'r hyn a ysgrifennaist, ond tyrd i'm cyfarfod yn Ptolemais, er mwyn inni weld ein gilydd, ac imi ddod yn dad-yng-nghyfraith i ti, fel yr wyt wedi dweud.”

57. Ymadawodd Ptolemeus â'r Aifft, ef a'i ferch Cleopatra, a dod i Ptolemais yn y flwyddyn 162.

58. Cyfarfu'r Brenin Alexander ag ef; rhoddodd yntau ei ferch Cleopatra yn briod iddo, a dathlodd ei phriodas mewn rhwysg mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.

59. Ysgrifennodd y Brenin Alexander at Jonathan iddo ddod i'w gyfarfod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 10