Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 10:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. oherwydd dywedodd, “Gadewch inni achub y blaen i gymodi â hwy cyn i Jonathan gymodi ag Alexander yn ein herbyn ni.

5. Oherwydd bydd ef yn cofio'r holl ddrygau a wnaethom iddo, ac i'w frodyr, ac i'r genedl.”

6. Felly rhoes Demetrius awdurdod i Jonathan i gasglu byddin, i ddarparu arfau, ac i weithredu fel cynghreiriaid iddo. Gorchmynnodd hefyd drosglwyddo iddo y gwystlon oedd yn y gaer.

7. Daeth Jonathan i Jerwsalem a darllen y llythyrau yng nghlyw'r holl bobl a'r gwŷr o'r gaer.

8. Daeth ofn mawr arnynt pan glywsant fod y brenin wedi rhoi awdurdod iddo i gasglu llu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 10