Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 1:54-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

54. Ar y pymthegfed dydd o fis Cislef, yn y flwyddyn 145, bu iddynt adeiladu ffieiddbeth diffeithiol ar yr allor, a chodi allorau i eilunod yn y trefi o amgylch Jwda,

55. ac arogldarthu wrth ddrysau'r tai ac yn yr heolydd.

56. Torrwyd yn ddarnau lyfrau'r gyfraith a ddarganfuwyd, a'u llosgi â thân.

57. A phan gaed llyfr y cyfamod ym meddiant rhywun, neu os byddai rhywun yn cydymffurfio â'r gyfraith, fe'i lleddid yn unol â gorchymyn y brenin.

58. Fis ar ôl mis yr oeddent yn defnyddio'u grym yn erbyn yr Israeliaid a gafwyd yn y trefi.

59. Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, offrymasant aberthau ar yr allor yr oeddent wedi ei chodi ar ben allor yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 1