Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 9:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna cododd Esra ac aeth o gyntedd y deml i ystafell Joanan fab Eliasibus,

2. ac aros yno heb fwyta bara nac yfed dŵr, am ei fod yn dal i alaru am gamweddau mawr y gynulleidfa.

3. Yna gwnaethpwyd cyhoeddiad yn holl Jwda a Jerwsalem fod pawb a ddychwelodd o'r gaethglud i ymgynnull yn Jerwsalem,

4. a bod pwy bynnag na ddôi i'r cyfarfod o fewn deuddydd neu dri, ar wŷs yr henuriaid llywodraethol, i fforffedu ei anifeiliaid at wasanaeth y deml, ac yntau ei hun i'w dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.

5. O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd pobl llwyth Jwda a Benjamin i Jerwsalem,

6. ac eisteddodd yr holl gynulleidfa ar y sgwâr o flaen y deml, yn rhynnu oherwydd ei bod bellach yn aeaf.

7. Cododd Esra a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi torri'r gyfraith trwy briodi merched estron ac ychwanegu at bechod Israel.

8. Yn awr gwnewch gyffes, a rhowch ogoniant i Arglwydd Dduw ein hynafiaid;

9. gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth y brodorion a'ch gwragedd estron.”

10. Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn yn union fel yr wyt ti wedi gorchymyn.

11. Ond y mae'r gynulleidfa'n niferus a'r tywydd yn aeafol, ac ni allwn sefyll yma yn yr awyr agored; y mae'n amhosibl. Nid gwaith diwrnod neu ddau yw hyn i ni, oherwydd y mae gormod ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

12. Bydded i arweinwyr y gynulleidfa aros yma, ac i'r holl rai yn ein gwladfeydd sydd wedi priodi gwragedd estron ddod ar amser penodedig,

13. pob un gyda henuriaid a barnwyr ei le ei hun, nes inni gael gwared â dicter yr Arglwydd yn y mater hwn.”

14. Ymgymerodd Jonathan fab Asael a Jesias fab Thocanus â'r gwaith ar yr amodau hyn, gyda Mosolamus, Lefi a Sabbataius yn cydeistedd â hwy.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 9