26. Am eu bod yn ddibynadwy, Lefiaid oedd y pedwar prif borthor, a hwy oedd yn gofalu am ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.
27. Yr oeddent yn lletya o gwmpas tŷ Dduw am mai hwy oedd yn gofalu amdano ac yn ei agor bob bore.
28. Yr oedd rhai ohonynt yn gofalu am lestri'r gwasanaeth; yr oeddent yn eu cyfrif wrth eu cario allan ac wrth eu cadw.
29. Yr oedd eraill yn gofalu am ddodrefn a llestri'r cysegr, y peilliaid, y gwin, yr olew, y thus a'r perlysiau.
30. Yr oedd rhai o feibion yr offeiriaid yn gwneud ennaint gyda pheraroglau.
31. Am ei fod yn ddibynadwy, yr oedd Matitheia, un o'r Lefiaid a mab cyntafanedig Salum y Corahiad, yn gweithio wrth y radell.
32. Yr oedd rhai o'u brodyr y Cohathiaid yn gyfrifol am ddarparu'r bara gosod bob Saboth.
33. Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wahân am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos.
34. Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn ôl eu rhestrau.
35. Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,
36. a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab,
37. Gedor, Ahïo, Sechareia a Micloth;
38. Micloth oedd tad Simeam. Yr oeddent hwy yn byw yn Jerwsalem yn ymyl eu brodyr.
39. Ner oedd tad Cis, a Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal.