Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 9:20-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.

21. Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod.

22. Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn ôl eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd.

23. Yr oeddent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r babell.

24. Yr oedd y porthorion i fod ar bedair ochr, y dwyrain, y gorllewin, y gogledd a'r de.

25. Yr oedd eu brodyr o'r pentrefi i ddod atynt am wythnos bob hyn a hyn.

26. Am eu bod yn ddibynadwy, Lefiaid oedd y pedwar prif borthor, a hwy oedd yn gofalu am ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.

27. Yr oeddent yn lletya o gwmpas tŷ Dduw am mai hwy oedd yn gofalu amdano ac yn ei agor bob bore.

28. Yr oedd rhai ohonynt yn gofalu am lestri'r gwasanaeth; yr oeddent yn eu cyfrif wrth eu cario allan ac wrth eu cadw.

29. Yr oedd eraill yn gofalu am ddodrefn a llestri'r cysegr, y peilliaid, y gwin, yr olew, y thus a'r perlysiau.

30. Yr oedd rhai o feibion yr offeiriaid yn gwneud ennaint gyda pheraroglau.

31. Am ei fod yn ddibynadwy, yr oedd Matitheia, un o'r Lefiaid a mab cyntafanedig Salum y Corahiad, yn gweithio wrth y radell.

32. Yr oedd rhai o'u brodyr y Cohathiaid yn gyfrifol am ddarparu'r bara gosod bob Saboth.

33. Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wahân am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos.

34. Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn ôl eu rhestrau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 9