1. Rhifwyd holl Israel wrth eu hachau, ac y maent yn awr yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel, ond cafodd Jwda ei chaethgludo i Fabilon am ei chamwedd.
2. Y rhai cyntaf i ddod i fyw yn eu tiriogaeth a'u trefi eu hunain oedd yr Israeliaid, yn offeiriaid, Lefiaid a gweision y deml.
3. Dyma'r rhai o lwyth Jwda, o lwyth Benjamin ac o lwyth Effraim a Manasse, oedd yn byw yn Jerwsalem:
4. O lwyth Jwda: Uthai fab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda;
5. ac o'r Siloniaid: Asaia y cyntafanedig, a'i feibion;
6. ac o feibion Sera: Jeuel. Yr oeddent yn chwe chant a deg a phedwar ugain.
7. O lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua;
8. Ibneia fab Meroham, Ela fab Ussi, fab Michri: Mesulam fab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;
9. yn ôl rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn naw cant a deg a deugain a chwech. Yr oeddent i gyd yn bennau-teuluoedd.
10. O'r offeiriaid: Jedaia, Jehoiarib, Jachin,
11. Asareia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tŷ Dduw;
12. Adaia fab Jeroham, fab Passur, fab Malcheia; Maasia fab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
13. Ac yr oedd eu brodyr, eu pennau-teuluoedd, yn fil saith gant chwe deg, dynion abl ar gyfer y gwaith o wasanaethu yn nhŷ Dduw.
14. O'r Lefiaid: Semaia fab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari;