Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 8:30-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Nadab,

31. Gedor, Ahïo, Sacher,

32. a Micloth tad Simea; yr oeddent yn byw gyda'u perthnasau yn Jerwsalem.

33. Ner oedd tad Cis, Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal.

34. Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha.

35. Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas.

36. Ahas oedd tad Jehoada, Jehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; Simri oedd tad Mosa;

37. Mosa oedd tad Binea; Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

38. Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.

39. Meibion Esec ei frawd ef oedd Ulam ei gyntafanedig, Jehus yr ail, Eliffelet y trydydd.

40. Yr oedd meibion Ulam yn ddynion abl ac yn saethyddion, ac yr oedd ganddynt gant a hanner o feibion ac wyrion. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Benjamin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 8