Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:25-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Reffa oedd ei fab ef, Reseff ei fab yntau, Tela ei fab yntau, Tahan ei fab yntau,

26. Ladan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,

27. Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.

28. Yr oedd eu tiriogaeth a'u cartrefi ym Methel a'i phentrefi, ac i'r dwyrain yn Naaran, ac i'r gorllewin yn Geser a'i phentrefi, ac yn Sichem a'i phentrefi hyd at Aia a'i phentrefi.

29. Meibion Manasse oedd berchen Beth-sean a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi; yno yr oedd meibion Joseff fab Israel yn byw.

30. Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a Sera eu chwaer.

31. Meibion Bereia: Heber, Malchiel, sef tad Birsafith.

32. Heber oedd tad Jafflet, Somer, Hotham, a Sua eu chwaer.

33. Meibion Jafflet: Pasach, Bimhal ac Asuath.

34. Hwy oedd meibion Jafflet. Meibion Samer: Ahi, Roga, Jehubba ac Aram.

35. Meibion Helem ei frawd: Soffa, Imna, Seles ac Amal.

36. Meibion Soffa: Sua, Harneffer, Sual, Beri, Imra,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7