19. Meibion Semida: Ahïan, Sechem, Lichi ac Aniham.
20. Meibion Effraim: Suthela, Bered ei fab, Tahath ei fab yntau, Elada ei fab yntau, Tahath ei fab yntau,
21. Sabad ei fab yntau, Suthela ei fab yntau, Eser, ac Elead; fe'u lladdwyd hwy gan ddynion Gath, a anwyd yn y wlad, am iddynt ddod i lawr i ddwyn eu gwartheg.
22. Bu eu tad Effraim yn galaru amdanynt am amser maith, a daeth ei frodyr i'w gysuro.
23. Yna aeth Effraim at ei wraig, a beichiogodd hithau ac esgor ar fab. Fe'i henwodd yn Bereia oherwydd y trybini a fu yn ei dŷ.
24. Ei ferch oedd Seera, ac fe adeiladodd hi Beth-horon Isaf ac Uchaf, a hefyd Ussen-sera.