Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:52-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,

53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

54. Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy)

55. rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch;

56. ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne.

57. I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa,

58. Hilen, Debir, Asan,

59. a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;

60. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6