Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 29:12-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.

13. Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus.

14. Oherwydd pwy wyf fi a'm pobl i fedru rhoi o'n gwirfodd fel hyn? Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o'th eiddo dy hun y rhoesom iti.

15. Dieithriaid ac alltudion ydym ni yn dy olwg, fel ein holl hynafiaid; y mae ein dyddiau ar y ddaear fel cysgod, a heb obaith.

16. ARGLWYDD ein Duw, eiddot ti yw'r holl gyfoeth hwn a phopeth arall a roesom o'r neilltu i adeiladu tŷ iti er anrhydedd i'th enw sanctaidd.

17. Gwn, fy Nuw, dy fod yn profi'r galon ac yn ymhyfrydu mewn cyfiawnder. Â chalon uniawn yr offrymais o'm gwirfodd yr holl bethau hyn; ac yn awr gwelais dy bobl sydd wedi ymgynnull yma yn offrymu iti yn llawen ac o'u gwirfodd.

18. ARGLWYDD Dduw Abraham, Isaac ac Israel, ein tadau, cadw'r dyhead hwn yng nghalon dy bobl am byth, a thro eu calon atat.

19. Rho galon berffaith i Solomon fy mab, iddo gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau a'th ddeddfau, a'u gwneud bob un, ac iddo adeiladu'r deml a ddarperais i.”

20. Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, “Yn awr bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw.” Yna bendithiodd yr holl gynulleidfa ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid trwy ymostwng ac ymgrymu i'r ARGLWYDD ac i'r brenin.

21. Trannoeth aberthasant i'r ARGLWYDD ac offrymu iddo boethoffrymau, sef mil o ychen, mil o hyrddod, mil o ŵyn, ynghyd â'u diodoffrymau a llawer iawn o aberthau dros holl Israel.

22. Buont yn bwyta ac yn yfed o flaen yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw â llawenydd mawr. Gwnaethant Solomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith, a'i eneinio ef yn arweinydd i'r ARGLWYDD, a Sadoc yn offeiriad.

23. Felly eisteddodd Solomon ar orsedd yr ARGLWYDD yn frenin yn lle Dafydd ei dad; cafodd lwyddiant, a bu holl Israel yn ufudd iddo.

24. Rhoddodd yr holl swyddogion a'r rhyfelwyr, a phob un o feibion y Brenin Dafydd, wrogaeth i'r Brenin Solomon.

25. Dyrchafodd yr ARGLWYDD Solomon yn uchel iawn yng ngolwg holl Israel, a rhoi iddo fawrhydi brenhinol na welwyd mo'i debyg gan unrhyw un o frenhinoedd Israel o'i flaen.

26. Teyrnasodd Dafydd fab Jesse ar Israel gyfan am ddeugain mlynedd;

27. bu'n frenin am saith mlynedd yn Hebron a thair ar ddeg ar hugain yn Jerwsalem.

28. Bu farw'n hen ŵr mewn oedran teg, yn berchen ar gyfoeth ac yn llawn anrhydedd; a theyrnasodd ei fab Solomon yn ei le.

29. Y mae hanes y Brenin Dafydd o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng Nghronicl Samuel y gweledydd, Cronicl Nathan y proffwyd, a Chronicl Gad y gweledydd;

30. yno hefyd ceir hanes ei frenhiniaeth a'i wrhydri, a'r cyfnod yr oedd ef, ac Israel, a holl deyrnasoedd y byd, yn perthyn iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 29