Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 29:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd y Brenin Dafydd wrth yr holl gynulleidfa, “Y mae fy mab Solomon, a ddewiswyd gan Dduw, yn ifanc a dibrofiad, ond y mae'r gwaith yn fawr oherwydd mai palas i'r ARGLWYDD Dduw, ac nid i fod dynol, yw hwn.

2. Yr wyf wedi paratoi hyd eithaf fy ngallu ar gyfer tŷ fy Nuw; rhoddais aur ar gyfer popeth aur, arian ar gyfer popeth arian, pres ar gyfer popeth pres, haearn ar gyfer popeth haearn a choed ar gyfer popeth o goed. Rhoddais hefyd feini onyx a meini i'w gosod, meini glas ac amryliw, gemau gwerthfawr o bob math, a llawer o alabastr.

3. Hefyd, am fy mod yn ymhyfrydu yn nhŷ fy Nuw, yr wyf wedi rhoi fy nhrysor personol o aur ac arian i dŷ fy Nuw;

4. ar ben y cwbl, yr wyf wedi paratoi ar gyfer y cysegr dair mil o dalentau o aur Offir a saith mil o dalentau o arian coeth, i'w rhoi'n haenau ar barwydydd y tai,

5. yr aur ar gyfer popeth aur, a'r arian ar gyfer popeth arian, ac ar gyfer holl waith y rhai celfydd. Pwy sy'n barod i ymgysegru o'i wirfodd i'r ARGLWYDD heddiw?”

6. Yna rhoddodd arweinwyr y teuluoedd, penaethiaid llwythau Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin i gyd offrwm gwirfodd.

7. Rhoesant at waith tŷ Dduw bum mil o dalentau aur, deng mil o ddariciau, deng mil o dalentau arian, deunaw mil o dalentau pres a chan mil o dalentau haearn.

8. Yr oedd pob un a feddai emau gwerthfawr yn eu rhoi yn nhrysordy tŷ'r ARGLWYDD a oedd dan ofal Jehiel y Gersoniad.

9. Yr oedd eu haelioni yn achos llawenydd i'r bobl am eu bod yn offrymu i'r ARGLWYDD o'u gwirfodd ac â chalon berffaith.

10. Yr oedd y Brenin Dafydd hefyd yn llawen iawn.Bendithiodd yr ARGLWYDD o flaen yr holl gynulleidfa a dweud, “Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

11. I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.

12. Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.

13. Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus.

14. Oherwydd pwy wyf fi a'm pobl i fedru rhoi o'n gwirfodd fel hyn? Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o'th eiddo dy hun y rhoesom iti.

15. Dieithriaid ac alltudion ydym ni yn dy olwg, fel ein holl hynafiaid; y mae ein dyddiau ar y ddaear fel cysgod, a heb obaith.

16. ARGLWYDD ein Duw, eiddot ti yw'r holl gyfoeth hwn a phopeth arall a roesom o'r neilltu i adeiladu tŷ iti er anrhydedd i'th enw sanctaidd.

17. Gwn, fy Nuw, dy fod yn profi'r galon ac yn ymhyfrydu mewn cyfiawnder. Â chalon uniawn yr offrymais o'm gwirfodd yr holl bethau hyn; ac yn awr gwelais dy bobl sydd wedi ymgynnull yma yn offrymu iti yn llawen ac o'u gwirfodd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 29