Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 28:9-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A thithau, Solomon fy mab, bydded i ti adnabod Duw dy dad, a'i wasanaethu ef â chalon berffaith ac ysbryd ewyllysgar, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn chwilio pob calon ac yn deall holl ddychymyg y meddwl. Os ceisi ef, fe'i cei; ond os gwrthodi ef, bydd yntau'n dy wrthod dithau am byth.

10. Ystyria'n awr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis i adeiladu tŷ yn gysegr iddo; bydd gryf, a dechrau ar y gwaith.”

11. Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml, a'i hadeiladau, ei hystordai, ei goruwchystafelloedd, ei hystafelloedd mewnol a'r drugareddfa.

12. Rhoddodd iddo hefyd gynllun o'r cyfan a gafodd trwy'r ysbryd ynglŷn â chynteddau tŷ'r ARGLWYDD, yr holl ystafelloedd o'i gwmpas, trysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.

13. Rhoddodd iddo gyfarwyddyd am ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl waith ynglŷn â thŷ'r ARGLWYDD, a'r holl lestri ar gyfer y gwasanaeth.

14. Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau:

15. pwysau'r aur ar gyfer y canwyllbrennau aur a'u lampau; pwysau'r arian ar gyfer y canwyllbrennau arian, yn ôl pwysau pob canhwyllbren a'i lampau, a'r defnydd a wneid ohonynt;

16. pwysau'r aur ar gyfer un o fyrddau'r bara gosod, ac arian ar gyfer y byrddau arian;

17. aur pur ar gyfer y ffyrch, y costrelau a'r dysglau; pwysau'r aur ar gyfer y cawgiau aur, a phwysau'r arian ar gyfer y cawgiau arian;

18. pwysau'r aur coeth ar gyfer allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo hefyd gynllun cerbyd, a'r cerwbiaid aur oedd ag adenydd estynedig yn gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD.

19. “Hyn oll,” meddai Dafydd, “a ysgrifennwyd gan law yr ARGLWYDD; fy nghyfrifoldeb i oedd deall sut yr oedd pob cynllun yn gweithio.”

20. Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, “Bydd yn gryf a dewr, a dechrau ar y gwaith; paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda thi; ni fydd yn cefnu arnat na'th adael cyn iti orffen y cyfan sy'n angenrheidiol at wasanaeth tŷ'r ARGLWYDD.

21. Dyma ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid ar gyfer holl wasanaeth tŷ Dduw. Trwy gydol y gwaith fe fydd pob crefftwr ewyllysgar gyda thi, a bydd y swyddogion a'r holl bobl yn barod i ufuddhau iti.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 28