Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 28:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Casglodd Dafydd i Jerwsalem holl swyddogion Israel, arweinwyr y llwythau, swyddogion y dosbarthiadau a oedd yn gwasanaethu'r brenin, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, arolygwyr holl eiddo a gwartheg y brenin a'i feibion, ynghyd â'r eunuchiaid, y rhyfelwyr a phob gŵr nerthol.

2. Cododd y Brenin Dafydd ar ei draed a dweud, “Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr a'm pobl. Yr oeddwn â'm bryd ar adeiladu tŷ, yn orffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD ac yn droedfainc i'n Duw, a pharatoais i wneud hynny.

3. Ond dywedodd Duw wrthyf, ‘Ni chei di adeiladu tŷ i mi, oherwydd buost yn rhyfelwr ac yn tywallt gwaed.’

4. Dewisodd ARGLWYDD Dduw Israel fyfi o'm holl deulu i fod yn frenin ar Israel am byth; dewisodd Jwda i arwain, ac o fewn Jwda fy nheulu i, ac o blith meibion fy nhad, i mi y rhoes y fraint o fod yn frenin ar Israel gyfan.

5. O'm holl feibion—ac fe roddodd yr ARGLWYDD lawer ohonynt imi—fe ddewisodd fy mab Solomon i eistedd ar orsedd frenhinol yr ARGLWYDD dros Israel.

6. Dywedodd wrthyf, ‘Dy fab Solomon sydd i adeiladu fy nhŷ a'm cynteddau, oherwydd dewisais ef yn fab imi, a byddaf finnau'n dad iddo yntau.

7. Sefydlaf ei frenhiniaeth ef am byth, os bydd yn ymdrechu i gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau fel y gwneir heddiw.’

8. Yn awr, yng ngŵydd holl Israel, sef cynulleidfa yr ARGLWYDD, ac yng nghlyw ein Duw ni, gofalwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, er mwyn i chwi feddiannu'r wlad dda hon a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.

9. A thithau, Solomon fy mab, bydded i ti adnabod Duw dy dad, a'i wasanaethu ef â chalon berffaith ac ysbryd ewyllysgar, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn chwilio pob calon ac yn deall holl ddychymyg y meddwl. Os ceisi ef, fe'i cei; ond os gwrthodi ef, bydd yntau'n dy wrthod dithau am byth.

10. Ystyria'n awr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis i adeiladu tŷ yn gysegr iddo; bydd gryf, a dechrau ar y gwaith.”

11. Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml, a'i hadeiladau, ei hystordai, ei goruwchystafelloedd, ei hystafelloedd mewnol a'r drugareddfa.

12. Rhoddodd iddo hefyd gynllun o'r cyfan a gafodd trwy'r ysbryd ynglŷn â chynteddau tŷ'r ARGLWYDD, yr holl ystafelloedd o'i gwmpas, trysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.

13. Rhoddodd iddo gyfarwyddyd am ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl waith ynglŷn â thŷ'r ARGLWYDD, a'r holl lestri ar gyfer y gwasanaeth.

14. Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 28