8. Disgynyddion Obed-edom oedd y rhain i gyd, ac yr oeddent hwy a'u meibion a'u brodyr yn ddynion galluog ac yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth, chwe deg a dau ohonynt.
9. O feibion a brodyr Meselemia, dynion galluog: deunaw.
10. O feibion Hosa y Merariad: Simri yn gyntaf (er nad ef oedd y cyntafanedig, gwnaeth ei dad ef yn gyntaf),
11. Hilceia yn ail, Tebaleia yn drydydd, Sechareia yn bedwerydd; yr oedd meibion a brodyr Hosa yn dri ar ddeg i gyd.
12. Trwy'r rhain, y dynion mwyaf blaenllaw, yr oedd gan ddosbarthiadau'r porthorion ddyletswyddau ynglŷn â gwasanaeth yn nhŷ yr ARGLWYDD gyda'u brodyr.
13. Bwriasant goelbrennau ar gyfer y pyrth yn ôl eu teuluoedd, ifanc a hen fel ei gilydd.
14. Syrthiodd y coelbren am borth y dwyrain ar Selemeia. Yna bwriasant goelbrennau dros ei fab Sechareia, a oedd yn gynghorwr deallus, a chafodd yntau borth y gogledd.
15. Cafodd Obed-edom borth y de, a'i feibion yr ystordy.
16. Cafodd Suppim a Hosa borth y gorllewin gyda phorth Salecheth ar y briffordd uchaf.
17. Yr oedd y gwylwyr yn cyfnewid â'i gilydd: chwech bob dydd ym mhorth y dwyrain, pedwar bob dydd ym mhorth y gogledd, a phedwar bob dydd ym mhorth y de, dau yr un ar gyfer yr ystordai,
18. ac ar gyfer y glwysty gorllewinol, pedwar ar y briffordd a dau i'r glwysty ei hun.
19. Y rhain oedd dosbarthiadau'r porthorion o blith meibion Cora a meibion Merari.
20. Eu brodyr y Lefiaid oedd yn gofalu am drysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.
21. O feibion Ladan, a oedd yn Gersoniaid trwy Ladan ac yn bennau-teuluoedd i Ladan y Gersoniad: Jehieli.
22. O feibion Jehieli: Setham a Joel ei frawd; hwy oedd yn gyfrifol am drysordai tŷ'r ARGLWYDD.
23. O'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid:
24. Sebuel fab Gersom, fab Moses oedd yn bennaeth ar y trysordai.
25. Ei berthnasau ef trwy Eleasar: Rehabia ei fab, Jeseia ei fab, Joram ei fab, Sichri ei fab a Selomoth ei fab.