2. Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid.
3. Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain.
4. O'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr,
5. pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD â'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd.
6. Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn ôl meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.
7. Meibion Gerson: Ladan a Simei.
8. Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri.
9. Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan.
10. Meibion Simei: Jahath, Sisa, Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei,
11. Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu.
12. Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel, pedwar.
13. Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth.
14. Ond yr oedd meibion Moses, gŵr Duw, i'w cyfrif ymhlith llwyth Lefi.
15. Meibion Moses: Gersom ac Elieser.
16. Meibion Gersom: Sebuel yn gyntaf.
17. Meibion Elieser: Rehabia yn gyntaf; nid oedd ganddo feibion eraill, ond yr oedd meibion Rehabia yn niferus iawn.
18. Meibion Ishar: Selomith yn gyntaf.