Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 23:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi i Ddafydd fynd yn hen a chyrraedd oedran teg, fe wnaeth Solomon ei fab yn frenin ar Israel.

2. Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid.

3. Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain.

4. O'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhÅ·'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr,

5. pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD â'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd.

6. Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn ôl meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.

7. Meibion Gerson: Ladan a Simei.

8. Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri.

9. Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan.

10. Meibion Simei: Jahath, Sisa, Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei,

11. Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 23